Do you have hands on experience of making recycling services effective and implementing improvements?
Do you want to help councils across Wales to improve their services and help Wales achieve its ambition to be the best recycling nation in the world?
WRAP Cymru is an expert in sustainability including waste management and recycling and we are looking for a Local Authority Technical Consultant. This job is part of WRAP Cymru’s Collaborative Change Programme and you will join a team of experts in supporting councils to meet Welsh Government’s ambitious goal to make Wales the number one recycling nation in the world.
You will manage and deliver a series of projects with councils around Wales to help them develop their recycling and waste strategies. Engaging with local authorities on recycling and waste technical and policy issues, you will provide advice on potential changes both large and small. You will need to use your knowledge of the range of collection, recycling and sorting systems and understand the Welsh policy and legislative context for delivering recycling and waste services. If you enjoy developing effective working relationships with individuals at a variety of levels and using your technical knowledge to really make a difference, this could be the role for you! Although not essential, the ability to speak Welsh is desirable for the role.
When applying for the role, you’ll be asked to describe how you meet the following job essentials:
- Extensive knowledge of the range of collection services, sorting and treatment technologies in operation in the UK and the relevant policy and legislative context.
- Demonstrable experience of writing reports including for a non-technical audience.
- Proven ability to engage and influence key senior stakeholders and/or decision makers to agree and deliver change.
- Strong understanding of local authority structures and decision-making processes.
At the moment we are all working remotely; post COVID you will either be based in our Cardiff Office or home-based in Wales depending on your home location. The role requires regular travel to work with Local Authorities at their sites and will also require some meetings in Cardiff (approximately once a fortnight). The amount of travel will vary by work demands but will average between six and ten days on site each month. Overnight stays may be required and the remoteness of sites to be visited mean a full driving license is a must.
We are advertising a full-time, permanent role. We will consider the case for flexible working if we find a fantastic candidate. We welcome all applications regardless of religion, age, sex, sexual orientation, gender reassignment, marital status, disability, race, or neurodiversity.
Interviews will be held week commencing 20th September 2021
Full information and how to apply
-----------------------------------------------------------------------------------
A oes gennych chi brofiad ymarferol o wneud gwasanaethau ailgylchu a gwastraff yn effeithiol a rhoi gwelliannau ar waith?
A hoffech chi helpu cynghorau ledled Cymru wella eu gwasanaethau a helpu Cymru i gyflawni ei huchelgais o fod y genedl orau yn y byd am ailgylchu?
Mae WRAP Cymru yn arbenigwr ar gynaliadwyedd yn cynnwys rheoli gwastraff ac ailgylchu, ac rydym yn chwilio am Ymgynghorydd Technegol Awdurdodau Lleol. Mae’r swydd hon yn rhan o Raglen Newid Gydweithredol WRAP Cymru a byddwch yn ymuno â thîm o arbenigwyr i gefnogi cynghorau i gyflawni nod uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o wneud Cymru’r wlad orau yn y byd am ailgylchu.
Byddwch yn rheoli ac yn cynnal cyfres o brosiectau gyda chynghorau ledled Cymru i’w helpu i ddatblygu eu strategaethau ailgylchu a gwastraff. Byddwch yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol ar faterion technegol a pholisi sy’n ymwneud â gwastraff, a byddwch yn rhoi cyngor ar newidiadau posibl mawr a bach. Bydd angen ichi ddefnyddio eich dealltwriaeth o’r amrywiaeth o systemau casglu, ailgylchu a didoli a meddu ar ddealltwriaeth o’r cyd-destun polisi a deddfwriaethol yng Nghymru ar gyfer darparu gwasanaethau ailgylchu a gwastraff. Os rydych chi’n mwynhau meithrin perthynas waith effeithiol gydag unigolion ar amrywiaeth o lefelau a defnyddio eich gwybodaeth dechnegol i wneud gwahaniaeth go iawn, efallai mai hon yw’r swydd i chi! Er nad yw’n hanfodol, mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon.
Pan fyddwch yn ymgeisio am y swydd hon, byddwn yn gofyn ichi ddisgrifio sut rydych yn bodloni’r hanfodion swydd canlynol:
- Gwybodaeth eang am yr amrywiaeth o wasanaethau casglu, didoli a thrin sydd ar waith yn y Deyrnas Unedig a’r cyd-destun polisi a deddfwriaethol perthnasol.
- Profiad profadwy o ysgrifennu adroddiadau yn cynnwys rhai ar gyfer cynulleidfa annhechnegol.
- Gallu profedig i ymgysylltu ag uwch randdeiliaid allweddol a/neu benderfynwyr a dylanwadu arnynt i gytuno a gweithredu newid.
- Dealltwriaeth gadarn o strwythurau a phrosesau penderfynu awdurdodau lleol.
Ar hyn o bryd rydym oll yn gweithio o bell; ar ôl cyfnod COVID byddwch yn gweithio naill ai o’n swyddfa yng Nghaerdydd neu o gartref yng Nghymru, yn dibynnu ar leoliad eich cartref. Mae’r rôl hon yn gofyn am deithio’n rheolaidd i weith io gydag Awdurdodau Lleol ar eu safleoedd a bydd gofyn hefyd ichi fynychu rhai cyfarfodydd yn ein swyddfa yng Nghaerdydd (oddeutu unwaith bob pythefnos). Bydd y galw i deithio yn amrywio yn ôl galw’r gwaith, ond bydd yn golygu rhwng chwech a deg diwrnod yn y maes bob mis ar gyfartaledd. Mae’n bosibl y bydd angen aros oddi cartref, ac mae lleoliad pellennig y safleoedd y mae angen ymweld â hwy yn golygu bod rhaid cael trwydded yrru lawn.
Rydym yn hysbysebu swydd barhaol, llawn-amser. Fe ystyriwn yr achos dros weithio’n hyblyg os down o hyd i ymgeisydd rhagorol. Croesawn geisiadau gan unrhyw un, beth bynnag fo’u crefydd, oedran, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, statws priodasol, anabledd, hil neu niwroamrywiaeth.
Cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 20fed Medi 2021.